Tan-y-graig

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:32, 7 Ebrill 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tan-y-graig yn enw ar fferm a chwarel ithfaen ger Pen-lôn Trefor, a bellach dyna'r enw a arddelir hefyd ar res o dai ar y Lôn Bost a godwyd yn ystod blynyddoedd cynnar yr 20g., o'r enw "Sea View Terrace". Saif olion y chwarel ar ochr mynydd Moel Penllechog ar y ffriddoedd uwchben y fferm. Fferm sylweddol oedd fferm Tan-y-graig, a thua 1840, pan wnaed y Map Degwm, fe'i ymddengys mai'r perchennog oedd Rowland Jones, ysw., perchennog Elernion, Penllechog a nifer o ffermydd eraill yn y cyffiniau; y tenant oedd Griffith Roberts, a oedd yn ffermio 77 erw o dir.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. LlGC, Map Degwm a Rhestr Pennu plwyf Llanaelhaearn