Tŷ Mawr, Clynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:02, 5 Ebrill 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tŷ Mawr yn fferm sylweddol ar y gwastadeddau arfordirol ym mhen mwyaf gogleddol plwyf Clynnog Fawr, nid nepell o Bontlyfni. Roedd y tŷ'n un o ddau gartref Llwydiaid Cwm Gwared, hyd nes i'r teulu dorri eu cysylltiadau â Sir Gaernarfon a sefydlu'n derfynnol yn Llundain tua 1728.[1] Wedi hynny fe brynodd Thomas Wynn yr eiddo i ychwanegu at Ystad Glynllifon.

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/7727