Nant y Cwm, Trefor
Afon fechan sy'n llifo i lawr o lethrau'r Eifl yw Nant y Cwm. Fe'i gelwir gan rai hefyd yn Nant Cilmin - gweler yr erthygl ar Nant Cilmin.
Mae'n tarddu o ffrydiau ar lethrau mynydd canol Yr Eifl (Garn Ganol) ac ar waelod Craig y Cwm mae'n llifo heibio i adfeilion ffermdy a elwid hefyd yn Nant Cwm. Bu teulu'n byw yn y tyddyn hwn tan ddechrau'r 20g gan ffermio'r caeau bychain wrth ei ymyl a'r llechweddau uwchben. Yna mae Nant y Cwm yn llifo'n gyflym a byrlymus i gyfeiriad ffermdy Cwm ac yno defnyddid ei dŵr i droi melin flawd fechan. Mae adeilad y felin yn sefyll o hyd mewn cyflwr da dros y ffordd i'r ffermdy a gellir gweld safle'r olwyn ddŵr a phwll y felin o hyd. Yna mae Nant y Cwm yn llifo o dan y ffordd fynydd o Lanaelhaearn i Drefor (Lôn 'r Eifl fel y gelwir hi gan drigolion lleol) gan fynd yn ei blaen drwy Goed y Cwm cyn ymuno ag Afon Tâl gerllaw Elernion.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth bersonol