John Preis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:18, 1 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Crwydryn enwog o Gapel Ucha, Clynnog Fawr oedd John Preis.

Fe'i ganwyd ym 1894, ac fe'i magwyd, yn Nhyddyn y Garreg, Capel Ucha Clynnog yn bedwerydd o bedwar plentyn Richard Price (1845-1924) ac Elizabeth Price (1856-1918). Hanai'i dad o deulu Tyddyn Madyn, a'i fam o deulu Hafod-y-rhiw uwchlaw Brysgyni. Dyma enwau'r plant :

Annie : ganwyd 1884 a bu'n athrawes ysgol ac yn byw yng Nghlwt-y-bont ger Deiniolen. Bu farw yn y 1960'au.

Jane : ganwyd 1886 ond bu farw'n bymtheg oed ar 8 Chwefror 1901.

Richard : ganwyd 1889. Ymfudodd i dalaith British Columbia yng Nghanada. Bu farw'n lled ieuanc yn Vancouver.

John : ganwyd 1894. Aeth yn grwydryn tua 1924 ar ôl claddu'i dad.

Treuliodd y tair blynedd ar ddeg olaf o'i oes yng Nghartref Bron-y-garth, Penrhyndeudraeth.

Bu farw, yn 91 oed, ar 15 Hydref 1985 ac fe'i claddwyd ym meddrod y teulu ym mynwent Capel Ucha Clynnog.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, John Preis (Clynnog Fawr, Gwasg Utgorn Cymru, 2014)