Melin-gerrig
Roedd y Felin Gerrig yn Llanllyfni yn weddol agos i'r eglwys a'r pentref, yn fwy neu lai'n gyferbyn â Chapel Ebeneser. Mae'n debyg mai melin ŷd oedd hon, yn defnyddio grym Afon Llyfnwy. Nid yw mapiau Ordnans y 19g yn dangos mwy na'r enw fodd bynnag. Mae rhes o dai (efallai yur adeiladau melin gwreiddiol i raddau) yn dal i arddel yr enw.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma