Melin Ynys Goch
Roedd Melin Ynys Goch yn felin at ddibenion y fferm ac yn benodol, erbyn diwedd ei oes o weithio, at falu eithin. Roedd yn sefyll ar un o brif ganghennau Afon Erch. Mae Ynys Goch yn mhen eithaf plwyf Llanaelhaearn, nid nepell o lethrau deuheuol mynydd Pen-y-gaer. Dichon fodd bynnag i'r felin fod yn bwysig i gylch ehangach ar un adeg, gan fod sôn am "Melin yr Ynys Goch" (ynghyd â Thyddin y Felin) ymysg eiddo Ystad Glynllifon yn y cylch oedd i'w gwerthu i dalu dyledion John Glynn o Lynllifon ym 1685.[1] Mae'r cyfeiriad at Dyddin y Felin fel eiddo ar wahân yn tueddu awgrymu fod pwysigrwydd y felin y pryd hynny'n ehangach na melin at iws un fferm yn unig.
Bu eithin yn borthiant i wartheg ac yn arbennig ceffylau tan y 19g., ond oedd angen ei falu a'i wasgu er mwyn iddo fod yn haws ei fwydo i'r anifeiliaid. Roedd periannau malu eithin i'w cael hefyd,rhai'n cael eu troi gan ddyn ac eraill gan gŵn; ond mae melin eithin a drowyd gan ddŵr yn gallu gwneud mwy gyda fawr o fôn braich.
Bu'r olwyn ddŵr a'r siafft yn dal yn eu lle tan 2010, pan drowyd yr adeilad yn dŷ.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma