Melin Moelfre
Mae Melin Moelfre yn sefyll ar fferm Moelfre Mawr, Llanaelhaearn a fu ar un adeg yn rhan o Ystad Lleuar, er mae'n bosibl nas adeiladwyd y felin tan ar ôl 1840, gan nad yw ffrwd y felin na llyn y felin i'w gweld ar fap degwm y plwyf a wnaed tua'r flwyddyn honno. Tynnid y dŵr o un o flaen-nentydd Afon Erch.Credir fod hen ffermdy Moelfre Mawr wedi ei addasu'n adeilad ar gyfer y felin pan godwyd ffermdai newydd Moelfre Mawr a Moelfre Bach; yn sicr maea'r adeilad ei hun yn dyddio'n ôl i'r 18g., ac mae nodweddion tŷ annedd iddo. Melin malu ŷd ydoedd, ac efallai na wasanaethodd neb ond ffarm Moelfre Mawr.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma