Llyn Bwlch-y-moch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:19, 17 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cronfa ddŵr oedd Llyn Bwlch-y-moch a grewyd rywbryd ar ôl 1840[1] ychydig i'r gogledd o Lyn y Dywarchen, ar ben Bwlch y Moch ac yr ochr arall i fynydd Clogwyn y Garreg. Pwrpas y gronfa ddŵr oedd sicrhau digon o ddŵr cyson ar gyfer Gwaith copr Simdde'r Dylluan, a bu'n darddiad Afon Llyfni wedi i Lyn y Dywarchen hefyd gael ei addasu'n gronfa ddŵr, a'r dŵr yn yr achos hwnnw gael ei ddargyfeirio i ddyffryn Afon Gwyrfai at ddibenion y chwareli yno. Pan aeth y dam yn fregus yn y 1950au, penderfynodd y perchnogion, Ystad y Faenol, agor y dam rhag iddo roi a chreu llifogydd yn Nhrws-y-coed. Serch hynny, mae olion y dam a physt clymu cychod pysgodwyr yn dal i'w gweld yn yr hyn sydd ar ôl, sef darn o gorsdir.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Scandal on Ben Nevis, [1], cyrchwyd 16.2.2021
  2. Geraint Thomas, Cyfrinachau Llynnoedd Eryri (Tal-y-bont, 2011), t.50