Chwarel Nantlle Vale
Chwarel lechi yn Nyffryn Nantlle oedd Chwarel Nantlle Vale, (SH 497526). Fe'i lleolwyd ar ochr ddeheuol y dyffryn, rhwng Dolbebin a Chwarel Gwernor, gyferbyn ag adeiladau Tŷ Mawr. Ceir sôn amdani yn y Morning Chronicle ym 1854, pan sonnir fod £142 o elw ar gyfer y cyfranddalwyr, gyda £260 o werth o lechi mewn stoc.[1] Roedd yn dal yn weithredol ym1874 o leiaf, pan hysbysebwyr am labrwyr.[2] Ym 1882, gweithid y chwarel o hyd gan Cwmni Chwarel Nantlle Vale. Roedd 20 o chwarelwyr yn gweithio yno a chynhyrchwyd tua 150 tunnell o lechi mewn blwyddyn.[3]
Erbyn tua 1900 roedd wedi ei lyncu gan Chwarel Tŷ Mawr.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma