Chwarel Gwernor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:42, 24 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi weddol fach oedd Chwarel Gwernor, wedi'i lleoli ar ochr ddeuheuol Dyffryn Nantlle hanner ffordd rhwng pentrefi Tal-y-sarn a Nantlle, wrth ochr y lôn a adeiladwyd yn 1920au'r ganrif hon. Roedd yn gweithio erbyn 1873, pan oedd 20 o ddynion yn gweithio yno, ac yn cynhyrchu oddeutu 1,000 tunnell y flwyddyn. Roedd y llechi'n brin oherwydd eu lliw, sef gwyrdd ariannaidd, ond gan fod haenau llechi gwyrdd a glas yn gymysg, profodd i fod yn gostus, ac aeth y chwarel yn rhy gostus i'w gweithio, gan gau tua 1930. Prynodd Dorothea y lle ond ni bu'r cwmni hwnnw'n ei gweithio. Dyma un o'r chwareli nad oedd â chysylltiad â Rheilffordd Nantlle, a dibynnwyd ar rym dŵr ar gyfer symud llechi, pwmpio a thrin y slabiau.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, (Newton Abbot, 1974), t. 322.