Ysgol Llandwrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:39, 15 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae'n amlwg bod rhyw fath o ysgol yn bodoli ym mhentref Llandwrog yn y ddeunawfed ganrif (yn ôl pob tebyg yn Eglwys Sant Twrog, Llandwrog) er nad oes sicrwydd mai Ysgol Llandwrog oedd yr enw ar yr ysgol honno. Mae enw ysgolfeistr yn ymddangos yng nghofrestrau'r plwyf fwy nag unwaith yn niwedd y 18g. Ym 1789, enwir David Wilson, Ffrwd, ysgolfeistr, fel tad i ferch o'r enw Mary, plentyn siawns Ellin Parry o Gollfryn Mawr; fe'i bedyddiwyd 25 Ionawr 1789 ond ysywaeth fe'i claddwyd 8 Mai yr un flwyddyn. Dichon bod Wilson wedi gwneud "y peth anrhydeddus" ac wedi priodi'r Ellin honno, gan ei fod o a'i wraig Ellin yn bedyddio mab, John, y mis Ionawr canlynol er i hwnnw eto'n farw'n fabi. [1]

Sefydlwyd ysgol dan nawdd y Gymdeithas Ysgolion Genedlaethol, a chyda chefnogaeth sylweddol Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough a oedd yn awyddus i ddatblygu pentref Llandwrog fel pentref model. Dylunwyd adeilad pwrpasol gan y pensaer eglwysig, Henry Kennedy.[2] Agorwyd yr ysgol o gwmpas 1854 fel ysgol yr eglwys, ac mae'n weithredol hyd heddiw fel ysgol y pentref, ac yn dal yn gysylltiedig â'r Eglwys yng Nghymru. Enw gwreiddiol yr ysgol oedd Llandwrog National School.[3]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1789-90
  2. Archifdy Caernarfon, XD2A/871-2
  3. Llyfrau Log Ysgol Gynradd Llandwrog (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/72 [1864-1965]