O'r Wyrcws i Dir Van Diemen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:15, 26 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn y Llys Chwarter (neu'r "Seisys") yng Nghaernarfon ar 27 Gorffennaf 1850 dedfrydwyd Mary Jones, 24 oed, i alltudiaeth am oes yn "Van Diemen's Land" (Tasmania bresennol) am ddynladdiad ei baban, Ellen. Dyma beth o'r hanes.

Un o blwyf Llangian yn Llŷn oedd Mary Jones. Fe'i bedyddiwyd ar 26 Chwefror 1826, yn blentyn anghyfreithlon i Catherine Jones, Maes Mawr. Magwyd Mary mewn tlodi gan wraig o'r enw Ellen Jones o'r un plwyf ac erbyn 1850, pan oedd yn 24 oed, roedd wedi'i chyflogi fel morwyn laeth ar fferm Coed Marion yng Nghaernarfon.

Fodd bynnag, daeth i'r amlwg yn fuan ei bod yn feichiog a bu'n rhaid iddi adael y ffarm a cheisio lloches yn Wyrcws Caernarfon. Yno, ar 26 Mawrth, ganed merch iddi ac fe'i bedyddiwyd yn Ellen ar 2 Ebrill - yr un enw â Metron y Wyrcws a mam faeth Mary. Roedd Mary ar dân i adael y Wyrcws cyn gynted â phosib a dechrau Mai cafodd y Metron le iddi'n forwyn gyda theulu yng Nghaernarfon ar yr amod ei bod yn mynd â'r babi at ei hen fam faeth, Ellen Jones o Langian, i'w fagu. Drannoeth, cychwynnodd Mary am Lŷn gydag Ellen fach yn fwndel yn ei breichiau. Ond beth yn union ddigwyddodd wedyn sy'n ddirgelwch. Ni chyrhaeddodd y babi ben y daith i Lŷn. I gwtogi peth ar y stori, cafwyd hyd i gorff y babi, wedi ei lapio mewn siol, mewn ffos yng Nghae Bach fferm Gwydir Mawr yn yr Hendra (Trefor yn ddiweddarach) fore Sul 19 Mai. Y dydd Mercher canlynol claddwyd Ellen ym mynwent eglwys Aelhaearn a nodwyd yn y Gofrestr Claddedigaethau: A child, name unknown, a female, about a month old. The body found in a field near Hendre. Arestiwyd Mary drannoeth gan gwnstabl Pwllheli a dygwyd hi i'r cwest a gynhaliwyd yno ar 24 Mai. Fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth fwriadol gan y rheithgor ym Mhwllheli a'i hanfon i garchar Caernarfon i ddisgwyl sefyll ei phrawf yn y Llys Chwarter.

Yn yr achos hwnnw cafwyd tystiolaeth feddygol fod y plentyn wedi marw o oerfel a diffyg maeth ar ôl i'w mam ei gadael, yn hytrach na'i bod wedi ei llofruddio'n fwriadol. Wedi tri chwarter awr o drafod fe'i cafwyd yn euog o ddynladdiad a'i dedfrydu i alltudiaeth am oes yn Nhir Van Diemen. Fe'i cludwyd, ynghyd â nifer o garcharorion eraill, i'r wlad bell ar y llong Aurora. Yn gwmni iddi ar y daith roedd Ellen arall, sef Ellen Davies, morwyn o Sir Fôn, a alltudiwyd am saith mlynedd am ddwyn darn o gaws ac ychydig dafelli o gig moch. Cyrhaeddwyd pen y daith ymhen tri mis ac, fel llawer tebyg iddi, diflannodd Mary Jones o Lŷn oddi ar dudalennau hanes.[1]

Cyfeiriadau

1. Ceir yr hanes yn llawn yn Eigra Lewis Roberts, Llygad am Lygad, (Gomer, 1990), tt.25-37. Mae'r awdures yn cydnabod ei diolch i Geraint Jones, Trefor, am wybodaeth a gafodd ganddo am yr achos hwn.