Aelhaearn Sant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:36, 7 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nawdd-sant a aned yn y 7fed Ganrif oedd Aelhaearn Sant.

Yn ôl adroddiad Syr J. E. Lloyd, mab Hygarfael, mab Cyndrwyn o Lystin Wennan – ‘Moel Feliarth’ heddiw, ym mhlwyf Llangadfan oedd Sant Aelhaearn. Ef a sefydlodd Cegidfa, Llanaelhaearn, a chapel arall o’r ‘run enw a gynrychiolir gan Gwyddelwern. Roedd cred hefyd fod ei ffynnon ‘Ffynnon Aelhaearn’ gyda rhinwedd gwella yn ei dyfroedd. Mae ei Ddydd Gŵyl ar Dachwedd 1af.