Pont Cefn Pederau
Pont Cefn Pederau (neu Bont Cefn Bedeirau ar rai mapiau) yw'r bont dros Afon Carrog wrth sgwâr Rhostryfan. Mae'r enw amlwg ar bont yn y cyfryw le fyddai Pont Rhostryfan, ond mae Rhostryfan fel pentref yn gymharol newydd (rhyw 200 oed efallai), ac felly tybed a yw Pont Cefn Pederau'n dyddio'n ol i oes cyn hynny, pan nad oedd ond yn pontio'r afon fechan er mwyn cario'r trac o waelodion y plwyf i'r mynydd a'r mawnogydd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma