Gwesty'r Nantlle Vale

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:03, 5 Ionawr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeilad sylweddol a godwyd yn Nhal-y-sarn yn y 1860au oedd Gwesty'r Nantlle Vale. Safai nid nepell o orsaf newydd Nantlle a agorwyd ym 1872, a dichon mai'r rheswm am godi gwesty yno oedd er mwyn darparu llety i unrhyw ddynion busnes a'u cyffelyb a fyddai'n cyrraedd ar y trenau newydd. Rhaid cofio mai pentref newydd ar ei brifiant oedd Tal-y-sarn ar y pryd, gyda'r chwareli llechi'n ehangu'n gyflym.

ERTHYGL HEB EI GORFFEN