Twrog Sant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:06, 8 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Credir i Twrog fyw yn ystod y 6-7g, a'i fod yn fab i Ithel Hael, a ddaeth i Gymru o Lydaw. Roedd yn frawd i'r saint Tanwg, Tecwyn, Tegai a Baglan. Baglan yw nawdd-sant Llanfaglan yn Isgwyrfai.

Mae nifer o eglwysi eraill yn gysylltiedig ag ef, sef Maentwrog (Meirionnydd), Bodwrog (Sir Fôn) a chapel (sydd bellach yn furddun) ar Garreg y Capel (Chapel Rock) yn aber yr Afon Hafren ger Beachley, swydd Caerloyw (nid nepell o Gas-Gwent). Fo hefyd yw nawddsant Llanddarog, sir Gaerfyrddin: er mai Darog, un o swyddogion Hywel Dda yn y 10g, sydd wedi rhoi ei enw i'r plwyf hwnnw, Twrog, wnaeth sefydlu ei gymuned – Y Llan – ar yr ucheldir rhwng Cwm Gwendraeth a Dyffryn Tywi.

Mae'n debyg iddo fod yn aelod o gymuned yr Eglwys Geltaidd ar Ynys Enlli.

Ei wylmabsant oedd 26 Mehefin (ac hefyd 15 Awst).

Ffynonellau