Clwb Garddio Felinwnda
Sefydlwyd Clwb Garddio Felinwnda pan agorodd Canolfan Gymdeithasol Felinwnda yn 2008, gydag Osborn Jones, Llandwrog, yn gadeirydd. Cynhelir sawl cyfarfod bob tymor, yn ogystal â gwibdeithiau i weld gerddi rhai o'r aelodau a gerddi cyhoeddus nodedig.
Mae crynodeb o weithgareddau'r clwb, a ymddangosodd ar eu blog yn 2014, yn rhoi argraff o weithgareddau a llwyddiannau'r clwb:
Cafodd Clwb Garddio Felinwnda dymor diddorol iawn yn 2013, a da oedd cael croesawu cymaint o aelodau newydd, yn hen ac ifanc! Yn ogystal â dysgu trwy wrando ar arbenigwyr y byd garddio, cafwyd ymweliadau â gerddi rhai o'r aelodau. Gerddi amrywiol iawn, ond pob un fel ei gilydd yn adlewyrchiad o ddiddordebau amrywiol y garddwyr. Mentrodd rhai o'r Clwb i Sioe Tatton ar y trip blynyddol. Sioe gwerth chweil fel arfer ond co' da am orfod ciwio am oriau i gael mynediad! Mae rhaglen digon diddorol wedi'i llunio ar gyfer tymor 2014 eto. Ar nos Iau, 6 Mawrth 2014 byddwn yn croesawu Dafydd Wigley i agor y tymor. Noson o rannu profiadau, gyda Dafydd yn llywio'r drafodaeth, i bwrpas helpu aelodau newydd a rhai mwy profiadol fel ei gilydd. Yn ogystal byddwn yn rhannu tatws hadyd o'r math 'Sarpo', sydd wedi cael eu datblygu ym Mhrifysgol Bangor fel tatws sy'n gwrthsefyll y malltod ('blight'). Croeso cynnes i bawb ymuno â ni, ac un ai dalu fesul noson neu am y tymor cyfan. Ar y drydedd nos Fawrth o'r mis cynhelir y cyfarfodydd o fis Ebrill ymlaen, pan ddaw Awen Haf (Galwad Cynnar) i sôn am berlysiau. Mae Awen yn hen ffefryn gan y Clwb, ac mae ei sgwrs yn ddifyr a buddiol bob amser. Dyma'r mis i rannu gwreiddiau, cymeryd torion, rhannu 'plygiau' a hadau o bob math. Ym mis Mai ceir noson dipyn yn wahanol wrth wahodd Nici Beech draw i sgwrsio am y rhaglen deledu 'Byw yn yr Ardd'. Atgofion am uchel-fannau'r gyfres ac ambell dro trwstan y tu ôl i'r camera! Ym Mehefin a Gorffennaf, trefnir ymweliadau i fwy o erddi'r aelodau. Ymunwch â'r criw ar y teithiau diddorol yma. Ym mis Awst bydd cyfle i ymweld â Sioe Flodau Amwythig . Ceir sgwrs am winllannau Pant Du ym mis Medi, a bydd y tymor yn dirwyn i ben ym mis Hydref gyda gwledd o gynnyrch y tymor yng Nghanolfan Felinwnda. Am fanylion pellach cysylltwch ag Osborn (830615), Marika (830913) neu clwbgarddio AT yahoo DOT com. A chofiwch fwrw golwg ar golofn 'digwyddiadau' papur Lleu am wybodaeth am ddigwyddiadau'r mis!