Canolfan Felinwnda
Mae Canolfan Felinwnda yn adeilad newydd ym mhentrefan Felinwnda a agorwyd yn 2006 ar ôl ymgyrch codi arian gan y bobl leol. Cymerodd le hen gwt a ddefnyddiwyd ar gyfer y Ffermwyr Ifainc lleol a mudiadau eraill ond oedd wedi cyrraedd pen ei oes. Sam Davies, Morogoro, oedd un o'r prif symbylwyr.
Fe'i defnyddir yn helaeth ar gyfer ysgol feithrin, Cymdeithas Hanes y Tair Llan, cangen leol Merched y Wawr, Clwb Garddio Llandwrog a nifer o gyrff eraill.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma