Capel Saron (MC), Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:20, 1 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel Methodistaidd ym mhentref Pen-y-groes oedd Capel Saron, Pen-y-groes (MC)[1].

Adeiladwyd y Capel yn 1883 fel cangen o Gapel Bethel, gyda chôst o £200 am y gwaith. Roedd y Capel yma hefyd yn daith gyda Chapel Nebo yn ystodd ei blynyddoedd cynnar, cyn i'r ddau Gapel fynd ar ei liwt eu hunain tua 1888[2].

Codwyd estyniad ar y Capel er mwyn ei ehangu yn 1897, a'r gôst am hyn oedd £750. O ganlyniad i hyn, mynychwyd tua 166 o bobl a 84 o blant y capel ym 1897. Dymchwelwyd y capel tua 2000 er mwyn gwneud lle ar gyfer capel newydd.

Ar y safle hwn heddiw mae adeilad modern Capel y Groes (MC), Pen-y-groes, sef uniad o gapeli Bethel a Saron[3].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. [1] Cofnod o'r Capel yma ar wefan Genuki.org
  2. Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 302, 342-345
  3. Gwefan Henaduriaeth Arfon