Sioe Amaethyddol Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:24, 13 Rhagfyr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cynhaliwyd Sioe Amaethyddol Trefor am nifer o flynyddoedd yn niwedd yr 20g a dechrau'r 21g.

Bu'r Sioe yn achlysur poblogaidd am rai blynyddoedd ac fe'i cynhelid ar ddydd Sadwrn yng Ngorffennaf yn y Cae Chwarae. Denai gystadleuwyr o'r ardaloedd cyfagos yn ogystal â rhai o gryn bellter. Roedd cystadlaethau i wahanol ddosbarthiadau o ddefaid a cheffylau, ynghyd â sgiliau marchogaeth. Ceid hefyd arddangosfa dda o hen beiriannau amaethyddol a chystadlaethau trin tractor a Jac Codi Baw - megis ceisio codi wy gyda JCB a'i gadw yn gyfan! Am gyfnod hefyd roedd cystadlaethau i anifeiliaid bach a chrefftau yn cael eu cynnal yn y Ganolfan ei hun ar ddiwrnod y sioe. Bu ei cholli yn ergyd arall i weithgareddau yn y pentref gan y rhoddwyd cefnogaeth dda i'r sioe tra parhaodd.[1]

Cyfeiriadau

1. Gwybodaeth bersonol