Bryn Gwenith
Darn o dir ar gyrion pentref Trefor yw Bryn Gwenith.
Mae'r tir, sy'n rhyw 12 erw i gyd, yn sefyll rhwng fferm Y Morfa a'r pentref. Mae'n tystio efallai fod gwenith yn cael ei dyfu yno yn y gorffennol neu fod rhywun eisiau dyrchafu ansawdd y tir drwy honni ei fod yn ddigon ffrwythlon i dyfu gwenith arno. Nid oes hanes i ffermdy fod ar y tir ond tan yn gymharol ddiweddar roedd arno dŷ gwair a beudy bychan. Ar y tir hefyd mae adfeilion lladd-dy sylweddol a godwyd gan Gymdeithas Gydweithredol yr Eifl i ddarparu cig i'r Stôr yn y pentref ac i ganghennau'r Gymdeithas yn y pentrefi cyfagos. Enw arall ar Fryn Gwenith mewn hen ddogfennau oedd Tyddyn y Felin a gelwir y tir gwastad a gwlyb sy'n rhan ohono i lawr ar lan Afon Tâl yn Cors y Felin. Mae'n debygol iawn fod melin ddŵr i falu blawd rywle yno ar lan yr afon ar un adeg ond nid yw ei safle yn hysbys. Nid oedd wedi ei nodi ar fap degwm 1839.