Gwylmabsant Clynnog Fawr
Cynhelid Gwylmabsant Clynnog ar y dydd Llun wedi'r Sulgwyn bob blwyddyn. Dyna oedd un o wylmabsantau pwysicaf yn y fro, ac yr oedd iddi enw o fod yn llawn rialtwch, cwffio a meddwi.
Ceir hanes o rywbryd tua 1770 am Robert Thomas, Y Ffridd ger pentref Nantlle yn cychwyn allan i ymladd dros ei blwyf, sef plwyf Llanllyfni, ryw ddydd Llun Sulgwyn yn llyfr Hobley:
Dacw Robert Thomas yn cychwyn yn fore o’r Ffridd, “a chlamp o ffon dderwen yn ei law,’’ a’i briod a'i blant yn llefain yn ei wyneb rhag nas gwelent ef yn ddianaf fyth ond hynny. "Tewch â gwirioni, ffyliaid,” ebe yntau, “myn diawl, mi falaf un hanner dwsin ohonynt yn gocos, nes y diango’r hanner dwsin arall.” Yn y modd hynny Robert y pencampwr!
ond ar y ffordd fe glywodd sŵn pregethu a chafodd dröedigaeth, gan droi (yn llythrennol) am adref. Meddai Hobley wedyn:
Nid anturiodd pobl Llanllyfni ymladd heb eu cawr y Llun Sulgwyn hwnnw.[1]
Gyda dylanwad y Methodistiaid yn yr ardal yn cryfhau a threfn gynyddol yn lledu trwy'r wlad gyda thŵf cyflogaeth yn y chwareli, edwynnodd bywiogrwydd yr hen wyliau mabsant a'r ffeiriau y cynhelid yn aml yn gysylltiedig â'r wyliau hynny. Nid cyd-ddigwyddiad efallai yw'r ffaith fod cyfarfodydd darllen ysgolion Sul dosbarth Methodistaidd Clynnog a sefydlwyd gan Eben Fardd yng nghylch Clynnog Fawr wedi arfer cael eu cynnal ar ddydd Llun Sulgwyn bob blwyddyn.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma