Siopau yn Nhrefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:24, 2 Tachwedd 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mor ddiweddar â'r 1960au a'r 1970au roedd cymaint â saith o siopau yn Nhrefor; erbyn hyn (2021) dim ond un sydd ar ôl, ynghyd â swyddfa'r post.

Dyma beth gwybodaeth am rai a gofiaf. Yng ngwaelod Ffordd yr Eifl, o fewn dau dŷ i'r bont a'r afon ceir y swyddfa bost. Lleolwyd y swyddfa bost mewn gwahanol adeiladau yn Nhrefor dros y blynyddoedd ond mae wedi bod yn ei chartref presennol ers nifer o flynyddoedd bellach. Yn ogystal â'r post ei hun bu siop fechan yn gwerthu amrywiaeth o fân nwyddau yno hefyd, ac mae hynny'n parhau o hyd. Yn ystod y degawdau diwethaf bu nifer o wahanol bobl yn bostfeistri yn Nhrefor.

Y drws nesaf i'r post yn Penmaen House roedd siop groser gyffredinol a gedwid gan Ifor Evans a'i briod Gwen. Cedwid amrywiaeth dda o ffrwythau a llysiau yno ynghyd â phob math o gigoedd oer. Roedd Ifor Evans hefyd yn gwerthu bara - yn bennaf o fecws Llanaelhaearn - ac roedd ganddo stoc dda o bapurau newydd a chylchgronau a melysion a'n denai ni yno'n gyson pan yn blant. Daeth y siop i ben pan ymddeolodd y perchnogion a bellach mae'n dŷ ers blynyddoedd lawer.

Dim ond un tŷ i fyny wedyn o Penmaen House roedd yna siop fach, fach ym mharlwr ffrynt Temperance House. Cadwyd y siop hon am flynyddoedd gan ddyn a adwaenid yn syml fel "Wili Temprans" ond, yn dilyn ei farwolaeth yn nechrau'r 1960au, daeth Dan Ellis a'i briod o Fynytho i fyw yno a pharhau â'r siop. Oherwydd ei bod mor fychan prin oedd y nwyddau a werthid yn y siop - pethau fel baco, fferins a mân nwyddau tŷ. Roedd Dan Ellis yn fardd cynhyrchiol ac ymddangosaid ei waith yn bur gyson yn Yr Herald Cymraeg - yn aml mewn ymrysonau â Wil Parsal. Ni fu arhosiad Mr a Mrs Ellis yn Nhrefor yn hir ac ar eu hymadawiad yn y 1970au daeth y siop i ben.