Maldwyn Parry
Roedd Maldwyn Parry (1930-2008), a fu'n byw ym mhentref Pen-y-groes, yn athro yn Ysgol Dyffryn Nantlle am flynyddoedd lawer. Daeth i amlygrwydd fel cerddor gan iddo ennill y Rhuban Glas yn yn Eisteddfod Genedlaethol ym 1962 gyda'i lais bas dwfn. Yr oedd hefyd yn un o'r ychydig i ennill y Rhuban Glas yr eildro, a hynny flynyddoedd yn ddiweddarach ym 1984.
Bu'n arweinydd côr Lleisiau'r Mignedd bron o'r dechrau ym 1982 hyd 2005, gan eu harwain wrth iddynt ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1988, yn ogystal â dod yn agos at ennill ar sawl achlysur arall. Bu'r côr dan ei arweiniad hefyd yn llwyddiannus deirgwaith yn yr Ŵyl Pan-Geltaidd. Cafodd y côr lysenw, sef "Cywion Maldwyn".
Canodd y cân Benedictus yng nghinio Nadolig y côr y noson cyn iddo farw ym 2009. Gadawodd wraig a thri o blant.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Daily Post, 1.1.2009