Craig Cae'r Foty
Ar Graig Cae'r Foty y datblygodd Chwarel yr Eifl.
Y graig enfawr hon yw wyneb y mynydd mewn gwirionedd, sef y Garnfor, neu Fynydd y Gwaith fel y'i gelwir yn lleol. Pan ddaeth Chwarel Craig y Farchas yn Y Gorllwyn i ddiwedd ei hoes tua diwedd y 1850au, penderfynwyd dechrau chwarel ar raddfa fwy o lawer ychydig fwy i'r dwyrain ar wyneb Craig Cae'r Foty ac adeiladwyd yr inclên fawr i fyny o Offis y Gwaith ati. Cwblhawyd yr inclên hon ym 1867 ac mae'n nodwedd gwbl amlwg o bentref Trefor o hyd. Datblygodd y chwarel hon i fod yn Chwarel yr Eifl a oedd, gyda'i deg ponc, yn un o chwareli ithfaen mwyaf Ewrop yn ei hanterth. Cafodd Craig Cae'r Foty ei henw oddi wrth fferm fechan Cae'r Foty (talfyriad o Cae'r Hafoty), a lechai yn ei chysgod. Yn fuan roedd y chwarel yn rhuo uwch ben y tyddyn a'r inclên yn rhedeg wrth ei ochr. Aeth y tŷ yn adfeilion yn ail hanner yr 20g ond bellach mae wedi cael ei adnewyddu a'r tir yn cael ei ffermio. Ar un adeg roedd yna dyddyn bychan o'r enw Cae'r Foty Bach hefyd yn uwch i fyny'r llethrau ond mae hwnnw wedi diflannu ers blynyddoedd maith o dan domennydd gwastraff y chwarel.
Cyfeiriadau
Gwybodaeth bersonol