Doc Bach

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:34, 14 Hydref 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn yr erthygl ar Tramffordd Chwarel Craig y Farchas soniwyd fel y datblygodd y Cwmni Ithfaen Cymreig harbwr newydd ar Draeth Gwydir Bach er mwyn sicrhau angorfa fwy cysgodol i lwytho cerrig na thraeth agored Y Gorllwyn ar ochr orllewinol Clogwyn y Morfa (neu Drwyn y Tâl).

Tua 1854 adeiladodd y Cwmni grwyn (groyne yn Saesneg) ym mhen gogledd-orllewinol y traeth, lle deuai'r dramffordd a nodir uchod i ben ei thaith. Roedd hwn yn wal neu gei o gerrig mawr a garw a'i fwriad oedd amddiffyn y mannau llwytho ar y traeth rhag stormydd y gorllewin. Er hynny roedd y safle'n parhau'n agored i wyntoedd o'r gogledd a'r dwyrain. Daeth y morglawdd hwn yn sylfaen i'r cei cerrig diweddarach llawer mwy a chadarnach sydd i'w weld o hyd, er iddo gael ei fyrhau yn dilyn yr ail-wampio mawr a fu ar y tirwedd ôl-ddiwydiannol ganol y 1980au.