Cyngerdd Nadolig Maesyneuadd
Am rai blynyddoedd hyd at tua 1960 bu Cyngerdd Nadolig Maesyneuadd yn achlysur pwysig yn Nhrefor. Fe'i cynhelid gyda'r nos ar Ddydd Nadolig ac roedd y capel helaeth yn llawn yn gyson gyda'r pentrefwyr a thrigolion o ardaloedd cyfagos yn tyrru yno. Deuai cantorion o fri fel David Lloyd a Leila Megane i berfformio ynddo, yn ogystal â doniau lleol. Fodd bynnag, aeth poblogrwydd y cyngerdd i lawr yn rhyfeddol o sydyn yn y diwedd a dywedir mai'r prif reswm am hynny oedd dyfodiad nifer cynyddol o setiau teledu i gartrefi'r fro at ddiwedd y 1950au.
Cyfeiriadau
Gwybodaeth bersonol