Moel Tryfan i'r Traeth

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:39, 2 Hydref 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyfrol o 18 o ysgrifau o waith yr hanesydd lleol W. Gilbert Williams yw Moel Tryfan i'r Traeth. <ref>W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, Pen-y-groes, 1983). Maent yn ymwneud â gwahanol agweddau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog. Mae cynnwys yr ysgrifau hyn yn pontio cyfnod eang, o hen fynachlog fechan Rhedynog Felen yn y ddeuddegfed ganrif i oes aur capeli anghydffurfiol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Maen nhw hefyd yn ymdrin â hen ddiwydiannau gwledig y plwyfi hyn, yn ogystal â'r chwareli llechi niferus a weddnewidiodd yr ardal yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan arwain at dwf mawr yn y boblogaeth a sefydlu pentrefi sylweddol yn Nyffryn Nantlle ac ar y llechweddau cyfagos. Rhannwyd yr ysgrifau dan y penawdau Hen Sefydliadau Crefyddol, Bywyd Cymdeithasol, Hanes Ymneilltuaeth a Nodiadau Cofiannol, sy'n tystio i rychwant diddordebau Gilbert Williams a'i ymchwil eang a thrylwyr i hanes ei fro enedigol. Roedd llawer o'r ysgrifau hyn yn hynod anodd i'w cael cyn cyhoeddi'r gyfrol hon gan iddynt ymddangos mewn cylchgronau neu mewn pamffledi prin eu cylchrediad a luniwyd gan Gilbert Williams ei hun. Yn wir, dim ond 22 o gopïau a gynhyrchwyd o'i lyfr bach Rhostryfan - Cychwyniad a Chynnydd y Pentref, a gynhwysir yn y gyfrol. Cadwyd llawer o'r deunydd ymysg papurau'r awdur sydd i'w gweld yn Archifdy Caernarfon. Casglwyd y deunyddiau ynghyd a rhoi trefn arnynt gan Gareth Haulfryn Williams, pennaeth Archifdy Caernarfon ar y pryd, a hefyd lluniodd ragair cynhwysfawr i'r gyfrol yn amlinellu hanes bywyd Gilbert Williams a'i gyfraniad enfawr fel hanesydd lleol i'w fro.

Cyfeiriadau