Moel Tryfan i'r Traeth

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:59, 1 Hydref 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyfrol o 18 o ysgrifau o waith yr hanesydd lleol W. Gilbert Williams yw Moel Tryfan i'r Traeth.[1] Maent yn ymwneud â gwahanol agweddau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog. Mae cynnwys yr ysgrifau hyn yn pontio cyfnod eang, o hen fynachlog fechan Rhedynog Felen yn y ddeuddegfed ganrif i oes aur capeli anghydffurfiol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Maen nhw hefyd yn ymdrin â hen ddiwydiannau gwledig y plwyfi hyn, yn ogystal â'r chwareli llechi niferus a weddnewidiodd yr ardal yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan arwain at dwf mawr yn y boblogaeth a sefydlu pentrefi sylweddol yn Nyffryn Nantlle ac ar y llechweddau cyfagos. Rhannwyd yr ysgrifau dan y penawdau Hen Sefydliadau Crefyddol, Bywyd Cymdeithasol, Hanes Ymneilltuaeth a Nodiadau Cofiannol, sy'n tystio i rychwant diddordebau Gilbert Williams a'i ymchwil eang a thrylwyr i hanes ei fro enedigol. Roedd llawer o'r ysgrifau hyn yn hynod anodd i'w cael cyn cyhoeddi'r gyfrol hon gan iddynt ymddangos mewn cylchgronau neu mewn pamffledi prin eu cylchrediad a luniwyd gan Gilbert Williams ei hun. Yn wir, dim ond 22 o gopïau a gynhyrchwyd o'i lyfr bach Rhostryfan - Cychwyniad a Chynnydd y Pentref, a gynhwysir yn y gyfrol. Cadwyd llawer o'r deunydd ymysg papurau'r awdur sydd i'w gweld yn Archifdy Caernarfon. Casglwyd y deunyddiau ynghyd a rhoi trefn arnynt gan Gareth Haulfryn Williams, pennaeth Archifdy Caernarfon ar y pryd, a hefyd lluniodd ragair cynhwysfawr i'r gyfrol yn amlinellu hanes bywyd Gilbert Williams a'i gyfraniad enfawr fel hanesydd lleol i'w fro.

Cyfeiriadau

1. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, Pen-y-groes, 1983).