Hynt Gwerinwr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:24, 25 Awst 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyfrol hunangofiannol o waith John Williams (J.W. Llundain) yw Hynt Gwerinwr a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 1943. Roedd J.W. yn frawd hŷn i'r hanesydd W. Gilbert Williams ac fe'i ganed yn Nhŷ'r Capel, Rhostryfan ar 22 Medi 1872. Yn y gyfrol cawn ganddo dipyn o gefndir bro ei febyd ac fel y dechreuodd y chwareli llechi ar y llethrau uwchlaw gael eu datblygu a'u ehangu. Mae'n ymdrin tipyn â'i rieni gan ddisgrifio sut y daeth ei dad yn ddyn diwylliedig er iddo ddechrau gweithio yn Chwarel y Cilgwyn cyn bod yn ddeg oed. Fel ei fab, Gilbert, yn ddiweddarach, cyfrannodd John Williams, y tad, erthyglau i Cymru O.M. Edwards, gan gynnwys hanes ei flynyddoedd cyntaf yn y chwarel ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ymdrinia J.W yn Hynt Gwerinwr hefyd â diffygion affwysol y drefn addysgol a fodolai pan oedd yn blentyn a'r Seisnigrwydd cibddall a di-ystyr a wthiwyd arno ef a'i gyd-ddisgyblion yn Ysgol Rhostryfan. Gadawodd yr ysgol yn dair ar ddeg oed heb i'w awydd am addysg gael ei fodloni o gwbl ac aeth gyda'i dad i weithio i Chwarel y Braich rhwng Moeltryfan a'r Cilgwyn. Mae ei bennod ar y chwarel yn rhoi sylw i'r dulliau gweithio gwael a hynod beryglus a geid yn y diwydiant llechi bryd hynny, yn ogystal â'r cymeriadau solet a brith a geid yno.

Fel llawer o'i gyfoedion gadawodd gartref cyn bod yn ddeunaw oed, ym 1890, a chychwyn am Lerpwl ar stemar o Borthaethwy. Mae ei benodau am ei gyfnod yn Lerpwl, ac yn Neston ar benrhyn Cilgwri, yn rhoi golwg inni ar gadernid y gymdeithas Gymraeg, ei chapeli a'i diwylliant, a geid yn Lerpwl a'r cyffiniau bryd hynny. Eto nid oedd bywyd yn Lerpwl yn hawdd i J.W. o bell ffordd. Roedd yn cael trafferth yn aml i gael gwaith cyson ac yn gorfod newid cyflogwyr yn fynych.

Ar union droad y ganrif, yn Ionawr 1900, symudodd i Lundain lle'r ymgartrefodd wedyn yn ardal Willesden. Gwta flwyddyn yn ddiweddarach priododd â merch o ardal Corwen a chawsant bedwar o blant. Wedi cael ei draed dano yn Llundain bu'n gweithio am flynyddoedd i gwmni toi gan ddod yn gyfrifol am drefnu a gweinyddu contractau mawr i'r cwmni a sicrhau archebion newydd iddo. Ar sail ei brofiad yn y maes dechreuodd ei fusnes ei hun ym 1923 gan ddatblygu cwmni proffidiol.