Lottie Ogwen Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:24, 22 Gorffennaf 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cantores enedigol o Drefor a enilodd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol oedd Lottie Ogwen Jones (Thomas yn ddiweddarach). Fe'i magwyd ar aelwyd gerddorol gyda'i mam, a ganai dan yr enw Llinos yr Eifl, yn gantores amlwg mewn cyngherddau ac eisteddfodau yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Brawd Lottie Ogwen oedd George Baum a fu'n adnabyddus fel canwr gwerin ar lwyfannau lleol a chenedlaethol. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr cyntaf ail-briododd gan gymryd y cyfenw Thomas ac ymgartrefodd yn Y Ffôr yn ystod ei blynyddoedd olaf. Bu farw yn 2020.

Cyfeiriadau

Gwybodaeth bersonol