Prosiect:Ffynonellau eraill

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:54, 20 Gorffennaf 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Os na chewch hyd i'r wybodaeth yr ydych am chwilio amdani, mae nifer o leoedd eraill ar y we allai fod o help.

Addoldai Cymru

Safle gan Gomisiwn henebion Cymru yn llawn o wybodaeth am gapeli ac anghydffurfiaeth.

http://www.addoldaicymru.org/welsh-chapels/

Archifdy Caernarfon

Mae llawer o gatalogau'r archifdy wedi eu digideiddio ac mae modd eu chwilio arlein. Yn aml, mae disgrifiad o ddogfen yn y catalog yn rhoi digon o wybodaeth i ateb cwestiwn - neu mae modd ymweld â'r archifdy i weld y cofnod drosoch chi'ch hunain.

https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/DATRhagorol/default.aspx?iaith=cy

Casgliad y Werin

Mae Casgliad y Werin yn gasgliad digidol o luniau, dogfennau a delweddau o greiriau o bob math sydd yn dweud stori Cymru. Mae'n wefan sydd, mewn ffordd, yn debyg i Wicipedia neu i Gof y Cwmwd gan ei fod yn gwahodd cyfraniadau gan y cyhoedd. Oherwyddd hyn, efallai y ceir hyd i ddeunydd o'ch ardal, neu y gallwch chi gyfrannu pethau o'ch ardal.

https://www.casgliadywerin.cymru/

Cymdeithas y Tair Llan

Mae'r wefan hon yn cynnwys tipyn o wybodaeth am blwyfi Llandwrog a Llanwnda (ynghyd â Llanfaglan yn Isgwyrfai), ac mae rhestr dda iawn o ffynonellau pellach y gellir eu cyrraedd ar y we.

https://tairllan.wordpress.com/

Cymru Hanesyddol

Porth gwe a gynhelir gan Gomisiwn Henebion Cymru yn cynnwys llawer o fanylion a chyfeiriadau at safleoedd hanesyddol ar draws Cymru sydd gan y Comisiwn, Amgueddfa Cymru a CADW. Mae map yn cyfeirio'r defnyddiwr at fanylion yr holl safleoedd.

https://cbhc.gov.uk/darganfod/cymru-hanesyddol/

Gwefan Dyffryn Nantlle

Mae adran Hanes Lleol gwefan swyddogol Dyffryn Nantlle yn llawn hanesion am y dyffryn ei hun ac ambell i ardal gyfagos.

http://www.nantlle.com/hanes-lleol.htm

Gwefan Y Ffôr

Mae llawer iawn o wybodaeth am Ben Llŷn ar y wefan hon, ac er nad yw'n uniongyrchol berthnasol i Uwchgwyrfai, mae llawer o wybdaeth am ardaloedd ychydig dros ffin y cwmwd. Hefyd, mae trawsysgrifiad o Gyfrifiad plwyf Llanaelhaearn (sydd, wrth gwrs, yn yr hen Uwchgwyrfai) ar y wefan hon.

http://www.yffor.com/index.html

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae bron y cwbl o gatalogau'r llyfrgell (yn llyfrau ac yn ddogfennau) wedi eu mynegeio ac mae modd eu chwilio arlein. Hefyd yma cewch hyd i lawer o ffynonellau gwreiddiol wedi eu digideiddio, yn arbennig holl ewyllysiau'r cwmwd hyd 1857; papurau newydd Cymru hyd tua 1900, a llawer o gylchgronau Cymraeg a Chymreig.

Safle cyffredinol: https://www.llyfrgell.cymru/

Cylchgronau Cymru: https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/

Ewyllysiau: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod/adnoddau-llgc/ewyllysiau/

Papurau newydd Cymru: https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/

Mapiau a rhestrau'r Degwm, tua 1840: https://lleoedd.llyfrgell.cymru/

Mapiau Ordnans sy'n dangos Uwchgwyrfai

Mae Llyfrgell Genedlaethol yr Alban wedi bod yn gyfrifol am ddigideiddio mapiau Ordans (a llawer o rai eraill) ac maent i gyd ar gael ar y we. Mae'n hawdd dod o hyd i unrhyw fap trwy glicio ar fap o'r DG neu roi enw pentref yn y blwch chwilio.

https://maps.nls.uk/

Wicipedia

Ffynhonell Gymraeg gwbl unigryw sy'n tyfu o hyd. Os ydych am ddysgu mwy am unrhyw bwnc, mae'n werth troi at y wefan hon. Ceir erthyglau yn ymwneud â phynciau sy'n gyslltiedig ag Uwchgwyrfai.

https://cy.wikipedia.org/wiki/Hafan