Neuadd a Chae Chwarae Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:27, 9 Gorffennaf 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fel llawer i bentref arall roedd awydd yn Nhrefor i gael neuadd goffa ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Y bwriad gwreiddiol oedd adeiladu neuadd barhaol ac addawodd cwmni'r chwarel roi safle, cerrig a deunyddiau eraill ar gyfer yr adeilad. Etholwyd pwyllgor i lywio'r fenter a chafwyd cynlluniau gan bensaer a dechreuwyd codi arian ar y fenter. Fodd bynnag, araf oedd y pwyllgor i fwrw ymlaen gyda chodi'r adeilad ac roedd tipyn o anesmwythyd yn codi yn y gymdogaeth oherwydd hynny. Roedd yn y pentref hefyd gymdeithas o gyn-filwyr - Cymrodyr y Rhyfel Mawr - neu Comrades of the Great War fel y galwent eu hunain mewn gwirionedd. Aeth y rhain ati'n fuan wedi'r rhyfel i drefnu gweithgareddau chwaraeon, fel pêl-droed, criced, tenis a bowls ar gae a logwyd gan gwmni'r gwaith, yn ogystal â sioe flodau ac amrywiol weithgareddau diwylliannol megis cyngherddau. Pan ddaeth i'r amlwg nad oedd llawer o obaith cael neuadd barhaol ar y pryd aeth y Cymrodyr hyn ati ym 1921 i brynu un o adeiladau sinc a choed y fyddin (a oedd yn cael ei ddisgrifio fel messroom) o Barc Kinmel, a oedd yn cael ei ddirwyn i ben bryd hynny. Y swm a dalwyd am yr adeilad a'i ddatgymalu, ei gludo i Drefor a'i ail-godi oedd £325/17/2 ac anfonwyd pump o weithwyr Chwarel yr Eifl gan y cwmni i Barc Kinmel i gyflawni'r gwaith.

Roedd yr adeilad (a fedyddiwyd yn fuan yn "Y Rhyt" - sef llygriad o Yr Hut) tua 100 troedfedd o hyd ac ugain troedfedd o led ac fe'i codwyd wrth ochr y cae chwarae lle cynhaliai'r Cymrodyr eu chwaraeon. Yn fuan iawn dechreuwyd galw'r cae chwarae yntau yn "Gae'r Rhyt". Yn ystod y blynyddoedd cynnar gelwid y lle yn Comrades Recreation Club ac ym 1929 fe'i hail-fedyddiwyd ag enw yr un mor Seisnig, sef y Trevor Village Institute. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd yn rhaid talu tâl aelodaeth blynyddol am gael defnyddio'r cyfleusterau. Yn wir, bu'n rhaid disgwyl tan 1959 nes trosglwyddo'r "Institute" i fod yn eiddo i'r pentrefwyr. Bryd hynny etholwyd pwyllgor a oedd yn cynrychioli pob sefydliad yn y pentref a chafwyd enw newydd a llawer mwy cydnaws, sef "Neuadd Bentref a Maes Chwarae Trefor".

Fel y nodwyd uchod fel darpariaeth dros dro y bwriadwyd i'r hen "Hyt" fod, ond gweithredodd fel neuadd bentref am oddeutu trigain mlynedd, nes i'r Ganolfan newydd gael ei hagor ym 1983. Roedd yn horwth o adeilad wedi ei baentio'n wyrdd tywyll gyda llawr coed iddo. Roedd wedi ei rannu'n ddwy ran gyda phartisiwn rhyngddynt. Yn y rhan uchaf roedd ystafell snwcer a biliards, gyda dau fwrdd mawr ac un bwrdd bach, a stof fechan tua'r canol i'w chynhesu. Bu nifer o bobl yn gyfrifol am oruchwylio'r ystafell hon dros y blynyddoedd. Pan oeddwn i'n blentyn y goruchwyliwr oedd Thomas Owen, Maes Gwydir, neu Twm Jabas, fel yr adwaenid ef yn y pentref. Roedd angen mynd i lawr stepen neu ddwy i ran isaf y neuadd ac roedd honno'n ystafell helaeth gyda llwyfan yn ei phen draw. Yno cynhelid amrywiaeth helaeth o weithgareddau; cyngherddau, dramâu, nosweithiau coffi, pictiwrs ambell dro, sioeau a gyrfaoedd chwist, ac yno cyfarfyddai cymdeithasau fel Sefydliad y Merched, a Merched y Wawr yn ddiweddarach, corau a chlybiau ieuenctid.