Capel Saron (B), Llanaelhaearn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:04, 29 Mehefin 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Un o hen achos y Bedyddwyr yn Sir Gaernarfon oedd yn gyfrifol am godi Capel Saron ym mhentref Llanaelhaearn. Mae'r adeilad, sydd wedi ei addasu'n llwyr yn dŷ annedd, yn sefyll ar ochr y lôn gefn o Lanaelhaearn i gyfeiriad Trefor. Adeiladwyd y capel yn wreiddiol ym 1814.[1] Cyn hynny, roedd y gynulleidfa wedi bod yn addoli yn nhŷ Hendre Fawr nid nepell i ffwrdd.[2]

Y gweinidog cyntaf i dderbyn galwad o'r eglwys y Bedyddwyr yn Llanaelhaearn oedd y Parch. Simon James, yn enedigol o Eglwys-wen, Sir Benfro, a bu'n gweinidogaethu yma rhwng 1812 a 1824.[3]

Ym 1847, roedd 20 o ddisgyblion dan 15; 34 dros 15 yn mynychu'r ysgol Sul.[4]

Ddechrau'r ganrif ddiwethaf, y Parch. J. Phillips, yn enedigol o Gas-mael, Sir Benfro oedd y gweinidog. Cafodd alwad i Lanaelhaearn o Drawsfynydd ym 1909[5] a roddwyd tysteb iddo ym 1913 i gydnabod ei lafur.[6]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein, [1], adalwyd 29.6.2021
  2. Gweler yr erthygl ar Pen Hendra
  3. 'Pembrokeshire County Echo, 16.9.1909, t.4
  4. Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), tt.274-282
  5. 'Pembrokeshire County Echo, 16.9.1909, t.4
  6. Seren Cymru, 21.3.1913, t.12