Bwlch Dros-bern
Bwlch Dros-bern yw'r enw ar fapiau Ordnans am y bwlch rhwng Mynydd Tal-y-mignedd a Chraig Cwm Silyn, Dyma bwynt isel ar hyd Crib Nantlle ond prin y byddai neb wedi defnyddio'r bwlch yn gyson fel ffordd i deithio o Ddyffryn Nantlle i gyfeiriad Cwm Pennant yn Eifionydd, gan fod y ddwy ochr yn arwain at y bwlch yn serth a charegog. Mae ffin rhwng y ddau gwmwd yn croesi pen y bwlch.