John Evans, Clochydd Llanfaglan
Clochydd plwyf Llanfaglan tua chanol y ddeunawfed ganrif oedd John Evans. Dywed Myrddin Fardd yn ei gyfrol Enwogion Sir Gaernarfon iddo fethu â darganfod unrhyw wybodaeth am y dyn yma, heblaw fod dwy gerdd foeswersol o'i waith wedi cael eu hargraffu yn Amwythig (lle'r argreffid llawer o lyfrau Cymraeg bryd hynny), y naill ym 1747 a'r llall ym 1751. "... Cerdd yn rhoi hanes dau o gymdeithion hawdd eu hebgor, sef cenfigen a'r cybydd" yw'r gyntaf, tra bo'r llall yn rhoi hanes haint yn lladd holl anifeiliaid gŵr a gwraig o Sir Gaerwrangon (Worcestershire), ac fel y bu i'r wraig regi Duw am eu hanffawd gan achosi i'w sefyllfa waethygu ymhellach. Mae'n amlwg nad oedd gan Myrddin fawr o feddwl o'r caneuon, oherwydd mae'n dweud "mai hanes yn y modd mwyaf trwstan a llipa, ar lun mydr, mewn iaith glogyrnog a charpiog ydynt".[1]
Dichon iddo farw ym 1753, gan fod cofnod yng nghofrestr pwyf Llanfaglan yn nodi claddedigaeth "John Evan, parish clerk2 ar 30 Medi 1753.[2] Mae'n bosibl hefyd mai ym 1721 y priododd, yn ôl cofnod yn yr un gofrestr, ac os felly, enw ei wraig oedd Margaret Thomas, a dyddiad y bruiodas oedd 21 Ebrill.