John Roberts, Archddiacon Meirionnydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:25, 25 Mehefin 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganed y Parchedig John Roberts M.A. yn ffermdy Hafod y Wern ym mhlwyf Clynnog Fawr ym 1729. Prin yw'r wybodaeth amdano ond llwyddodd i fynd i Brifysgol Rhydychen lle'r enillodd radd M.A. Fe'i penodwyd wedyn yn rheithor Boduan ac, yn ddiweddarach, yn rheithor Llanbedrog ac yn Archddiacon Meirionnydd. Roedd ganddo fywoliaeth eglwysig segur ym Môn hefyd. Treuliodd weddill ei ddyddiau yn Llanbedrog lle bu farw ar 7 Awst 1802 yn 73 oed. Mae ei fedd i'w weld ym mynwent yr eglwys.[1]

Cyfeiriadau

1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.314