Howel Gethin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:22, 24 Mehefin 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd genedigol o blwyf Clynnog oedd Howel Gethin, yn ôl Myrddin Fardd yn ei gyfrol Enwogion Sir Gaernarfon ond tenau eithriadol yw'r wybodaeth amdano. Dywed Myrddin ei fod yn ei flodau fel bardd rhwng 1570 a 1680, sydd yn amlwg yn wallus gan fod hynny'n gyfnod o 110 o flynyddoedd. Dywed Myrddin ymhellach fod rhai o'i gyfansoddiadau i'w cael mewn llawysgrifau a bod un neu ddau o'i gywyddau wedi eu hargraffu. Cyfansoddai farddoniaeth fawl a marwnad i rai o fân uchelwyr yr ardal, megis "Cywydd pedwar Maib Rhys ab Howell ab Madog (Berkin) o Lanystumdwy yn Eifionydd". Barn Myrddin amdano fel bardd oedd ei fod yn loyw a medrus ei grefft yn y mesurau caeth ond ei bod yn debygol fod nifer o wallau wedi llithro i'w waith a gadwyd oherwydd camgymeriadau a wnaed gan gopïwyr diweddarach.

Cyfeiriadau

John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.146.