Richard Jones (Gwyndaf Eryri)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:22, 9 Tachwedd 2020 gan 78.144.94.239 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Richard Jones (Gwyndaf Eryri), (1785-1848) yn Erw Ystyffylau, plwyf Llanwnda, yn fab i John a Margaret Jones. Fe'i gladdwyd ym mynwent Llanbeblig. Enillodd ei fara trwy amaethu ac fel saer maen, ond daeth i amlygrwyd fel eisteddfodwr llwyddiannus os hunan-addysgiedig. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Caernarfon 1821 am awdl ar y testun Cerddoriaeth, a thlws y Gwyneddigion yn Eisteddfod Llanwrtyd, 1823, am awdl ar Lles Gwybodaeth, ymysg gwobrau eraill. Ym 1818 cyhoeddodd gyfrol o'i farddoniaeth, sef Peroriaeth Awen. Roedd hefyd yn gerddor mewn band y mintai o wirfoddolwyr a gynhelid gan yr Arglwydd Newborough.[1]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.476