Afon Rhyd-y-beirion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:59, 24 Mai 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Afon sy'n rhedeg i'r Afon Llyfni ger pentref Tai'n Lôn, wrth ymyl Melin Faesog yw Afon Rhydybeirion, a elwir weithiau'n Afon Beirion neu Afon Rheon.[1] Mae ei tharddiad ger Bron-yr-erw. Honnwyd gan rai fod yr enw'n enw arall ar Afon Mynweddus neu Afon Weddus, ond prin bod hynny'n wir oherwydd cyfeiriadau mewn mannau eraill at Afon Weddus - a sôn am bont drosti, sef Pont Weddus, ar y lôn bost rhwng Aberdesach a phentref Clynnog Fawr.

Dŵr yr afon hon a ddefnyddid i droi olwynion Melin Faesog a Ffatri Wlân Clynnog.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Eben Fardd (Ebenezer Thomas), ‘’Cyff Beuno’’, (Tremadog, 1863), t.32