Ffatri Wlân Clynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:56, 24 Mai 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hen fil Ffatri Wlân Clynnog, 1891

Safai Ffatri Wlân Clynnog ym mhentrefan Tai Lôn. Mae'n sicr ei bod hi wedi ei sefydlu erbyn 1850.[1] Roedd hi'n dal i weithio tua 1910. Meddai O. Roger Owen, wrth sôn am dripiau Ysgol Ynys-yr-arch yn ei hunangofiant:

Cawsom hefyd fynd i wwld ffatri wlân Tai Lôn, gweld yr amryw beiriannau, a'r perchennog yn egluro i ni sut y defnyddid hwy. Olwyn ddŵr fawr oedd yn troi'r peiriananau.[2]

Mae Sophia Pari-Jones wedi cynnwys llun o fil y felin sydd yn dangos llun y ffatri. Fe'i atgynhyrchir ar y dudalen hon.[3] Dyddia'r bil o 1891, ryw 20 mlynedd cyn ymweliad y Roger Owen ifanc i'r ffatri, ond mae'n bosibl bod yr engrafiad wedi ei wneud gryn amser cyn hynny. John Jones, melinydd Melin Faesog gerllaw, oedd y sawl oedd yn ddyledus i Joseph Jones, perchennog y ffatri ar y pryd.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J. Geraint Jenkins, The Welsh Woollen Industry (Caerdydd, 1969), t.240
  2. O. Roger Owen, O Ben Moel Tryfan (Pen-y-groes, 1981), t.24
  3. Sophia Pari-Jones, Echoes from a Water Wheel" (Bangor, 2011), llun rhwng tt.28/29