Ffatri Wlân Clynnog
Safai Ffatri Wlân Clynnog ym mhentrefan Tai Lôn. Roedd hi'n dal i weithio tua 1910. Meddai O. Roger Owen, wrth sôn am dripiau Ysgol Ynys-yr-arch yn ei hunangofiant:
Cawsom hefyd fynd i wwld ffatri wlân Tai Lôn, gweld yr amryw beiriannau, a'r perchennog yn egluro i ni sut y defnyddid hwy. Olwyn ddŵr fawr oedd yn troi'r peiriananau.[1]
Mae Sophia Pari-Jones wedi cynnwys llun o fil y felin sydd yn dangos llun y ffatri. Fe'i atgynhyrchir ar y dudalen hon.[2] Dyddia'r bil o 1891, ryw 20 mlynedd cyn ymweliad y Roger Owen ifanc i'r ffatri, ond mae'n bosibl bod yr engrafiad wedi ei wneud gryn amser cyn hynny. John Jones, melinydd Melin Faesog gerllaw, oedd y sawl oedd yn ddyledus i Joseph Jones, perchennog y ffatri ar y pryd.