Capel Seion (MC), Gurn Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:16, 18 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel Methodist yn ardal Gurn Goch yw Capel Seion.

Credir i’r addoldy hwn ei adeiladu o ganlyniad diwygiad 1818. Cwblhawyd y gwaith adeiladu yn 1826 a rhoddwyd prydles o 101 mlynedd ar y Capel am 6 swllt y flwyddyn.

Cyn addoli yn y Capel hwn, roedd Methodistiaid yr ardal yn mynychu annedd-dŷ’r Hen Derfyn gyda’r ysgol Sul yn cael ei gynnal yn nhai gwahanol aelodau o’r gymuned.

Casfodd Eben Fardd ei dderbyn yn aelod ym 1840 neu 1841, a bron yn syth fe'i godwyd yn flaenor. Ym 1845, ar agoriad capel newydd ym mhentref Clynnog fe symudodd dau flaenor at yr achos newydd, sef Ebeneser Thomas (Eben Fardd) a James Williams. Roedd y ddau gapel yn rhan o'r un 'daith'.[1]

Ail-adeiladwyd y Capel a chodwyd tŷ ar y safle yn 1875, gyda cost o £700. Credir i’r ddyled ei dalu yn ôl i gyd o fewn 7 mlynedd o agor y Capel[2].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, . Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910) tt. 76, 84
  2. W. Hobley, . Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910) tt. 66-73