Moel Derwin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:00, 27 Ebrill 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bryncyn lled grwn a serth ei ochrau uwchlaw Pant-glas yw Moel Derwin. Nid yw ond 217 metr uwchlaw'r môr ond ceir golygfeydd hyfryd o'i chopa ar dywydd clir. Caiff Moel Derwin ei gwahanu oddi wrth Fynydd Cennin gan ddarn o dir is. Nid yw Mynydd Cennin ond rhyw 50 metr yn uwch na'r Foel, ond mae'n llawer mwy o ran ei arwynebedd. Yn y cyffiniau hyn yr ymladdwyd Brwydr Bryn Derwin ym 1255 pan drechodd Llywelyn ap Gruffydd ei frodyr, Owain Goch a Dafydd, gan ennill teyrnas Gwynedd yn llwyr iddo'i hun. Cyhoeddwyd cyfrol ddifyr o atgofion a hanesion am gymeriadau lleol yr ardal hon, sef O Ben Foel Derwin (1981) gan O. Roger Owen, a oedd yn ffermio yn Gyfelog gerllaw.