Melin Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:21, 8 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Melin Llanllyfni yng ngwaelod y pentref bron gyferbyn â'r eglwys. Mae bwthyn o'r enw Y Felin yn dal i sefyll yno, ger Bont Rectory, sef y bont fechan dros nant (sef Afon y Felin) sy'n llifo o gyfeiriad Rhos-yr-unman i Afon Llyfni, a dichon mai adeilad y tu ôl i'r bwthyn oedd y felin ei hun. Y nant hon roddodd y grym i droi'r olwyn, ac nid oes tystiolaeth ar y mapiau Ordnans fod ffrwd felin ar wahân yn gwasanaethu'r felin hon. Melin ŷd ydoedd ac roedd yn dal i gael ei dangos fel melin ar waith ar fap Ordnans dyddiedig 1914. Yn ystod y 1920au, roedd Walter S. Jones (Gwallter Llyfnwy) a'i frawd yn cadw'r felin.

Mae tystiolaeth fod melin wedi bod yma ers o leiaf y 17g. Ceir achos ymysg papurau'r Llys Chwarter 1655. Y pryd hynny yr oedd cario nwyddau a malu grawn ymysg yr holl weithgareddau a waharddwyd ar y Saboth, ac adroddwyd wrth Edmund Glynn, yr ynad heddwch leol fod John Prichard David Lloyd, gwas Griffith John Griffith, Gwernor ac Ellin Griffith, gwraig Owen Prichard, wedi cael eu gweld gan Humphrey John ap Humphrey, melinydd o blwyf Llandwrog, y mae'n bosibl melin Melin Nantlle yn gyrru caseg. Roedd y gaseg wedi ei llwytho â maidd o gyfeiriad Sarn Wyth-dŵr at ddrws Melin Llanllyfni. Gwrthododd Griffith ap William, y melinydd ar y pryd, fynd draw i'r felin i falu'r grawn oherwydd nad oedd o am ymhel â'r gwaith ar y Saboth. Y diwrnod wedyn, aeth Elizabeth John Prichard, ceidwad tafarn neu dŷ cwrw yn Llanllyfni, i'r felin gyda'r un faint o rawn, wedi ei gael o Ellin Owen.[1]

Ym 1841, Edward Morris, 50 oed oedd y melinydd yno, yn byw yn y felin.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Papurau'r Llys Chwarter XQS/1655/22
  2. Cyfrifiad Llanllyfni 1841