Arglwydd Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:58, 18 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Arglwydd Newborough yw'r teitl a gafodd Thomas Wynn (Arglwydd Newborough) am ei ffyddlondeb yn y Senedd i frenin Lloegr yn y 18g. Mae'r teitl yn dal mewn bod ac er bod yr Arglwydd Newborough presennol yn dal i fod yn berchennog ar dir sylweddol yn ardal LLandwrog, mae o bellach, fel ei dad o'i flaen, yn byw yn y Rug, Corwen.

Mae'r teitl yn perthyn i arglwyddiaeth yr Iwerddon (h.y. nid oedd gan yr arglwyddi Newborough hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, er y caent fod yn aelodau Tŷ Cyffredin o'u cael eu hethol). Dywedir nad oedd hyn wrth fodd yr Arglwydd cyntaf. Fodd bynnag, fe gymerodd ei deitl, fel oedd rhaid, o rywle yn Iwerddon. Gan fod ganddo beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, sir Fôn, dewisodd y teitl "Arglwydd Newborough ym Mrenin-deyrnas Iwerddon" - yr oedd tref yn Contae Loch Garman (swydd Llwch Garmon) yn Iwerddon o'r enw Newborough; fe'i hadnabyddir heddiw fel Guaire (neu, yn Saesneg, Gorey). Am y rheswm hwn, sef gan nad yw'r enw'n cyfeirio at rywle yng Nghymru, mae'n anghywir cyfeirio at "Yr Arglwydd Niwbwrch".