Afon Crychddwr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:53, 8 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Afon Crychddwr ger Pont y Lloc

Mae Afon Crychddwr ym mhlwyf Llanllyfni yn enw ar yr afon o'r pwynt lle ymuna Afon Ddu ac Afon Cwm Dulyn dan Pont y Lloc yn Nebo ac yn llifo o'r pwynt yna i lawr ac ar ôl llifo dan Pont y Crychddwr ar yr hen briffodd (nid nepell i fynwent Llanllyfni, yn ymuno ag Afon Llyfni ger fferm Dol-gau. Rhwng pontydd Lloc a Chrychddwr saif adeilad o'r enw Pandy Hen sy'n tystio i'r ffaith fod yr afon arfer troi olwyn melin bannu.[1]

Mae rhai parchus yn esbonio'r enw fel dŵr wedi'i grychu, sef heb lifo'n llyfn. Er hynny, dichon mai ymharchusiad o'r gair Cachddwr sydd yma, i ddisgrifio lliw'r dŵr. Enw cynharach ar yr afon oedd Afon Coed Cae Du; dyna'er enw a ddefnyddiwyd adeg Cyfrifiad 1851.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Mapiau Ordnans 6" i'r fodfedd, [1]