Elernion (tŷ a fferm)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:02, 11 Rhagfyr 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tŷ sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw Elernion, yn ardal Trefor.

Credir i’r adeilad a welir heddiw fod yn estyniad o hen adeilad oedd yno ynghynt, a chafodd ei adeiladu gan Humphrey Evans tua 1590. Dros amser, daeth y lle i ddwylo’r Glyniaid o Lynllifon trwy briodas merch Richard Evans gyda William Glynne yn yr ail ganrif ar bymtheg. Roedd y tŷ hefyd yn rhan o ystâd y Glyniaid o Blas Newydd, ac yna yn perthyn i’r Wyniaid o’r Wern, Penmorfa.

Mae’r adeilad hynafol hwn yn dyddio cyn belled a’r unfed ganrif ar bymtheg o leiaf.

Ffynonellau

Cofnod o’r lle hwn ar wefan ‘British Listed Buildings’.

Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol.