Ystad Cwellyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:56, 1 Ebrill 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Ystad Cwellyn yn ystad fach oedd yn perthyn i deulu Cwellyn. Roedd ar lan orllewinol Llyn Cwellyn. Erbyn canol y 19g., adeg y map degwm, yr oedd yr ystad yn perthyn i Philip Williams. Yn ogystal â thir Chwellyn ei hun (a sillafwyd yn "Cawellyn")ac a oedd yn ymestyn dros 174 o erwau, yr oedd dwy fferm arall gyfagos ar yr ystad, sef Planwydd (216 o erwau) a Chwm Bychan (41 o erwau). Yr oedd yr ystad hefyd yn berchen ar dyddyn Dolellog, nid nepell o bentref presennol Dinas. Roedd yr holl eiddo o fewn ffiniau plwyf Llanwnda.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. LLGC, Map degwm Llanwnda