Y Gurn Ddu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:06, 29 Mawrth 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Gurn Ddu yn fynydd uwchben pentref Gurn Goch. Mae'r copa ym mhlwyf Llanaelhaearn er bod rhai o'r mynydd ym mhlwyf Clynnog Fawr. Ar yr ochr agosaf at y môr ceir nifer o hen chwareli ithfaen, er nad oedd yr un mor lewyrchus â chwareli'r Eifl. Ar lethrau uchel y mynydd ar yr ochrau i'r de a'r gorllewin ceir olion hen weithfeydd manganîs o'r 19g. Mae copa'r mynydd 1712 troedfedd (522 metr) uwchben lefel y môr. Dyma, felly, copa uchaf y pum copa Gurn Ddu, Gurn Goch, Bwlch Mawr, Clipuau a Moel Bronmiod. Mae hen garneddau, sef pentyrrau o gerrig o'r Oes Efydd ar ystys de-ddwyreiniol y mynydd, ac olion hen drigfannau megis cytiau crwn o'r Oes Haearn yn y bwlch bach rhwng Gurn Ddu a Gurn Goch. Ail-ddefnyddiwyd rhai o'r hen waliau hyn i greu corlannau defaid ar ryw adeg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau